I Blant

  • Header image

Sesiwn Dawel - Basgedi a Mygydau Cwningen y Pasg.

23 Mawrth - 23 Mawrth 2024

Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2024

2pm-3pm| 7+| Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod

Sesiwn Dawel - Basgedi a Mygydau Cwningen y Pasg.

 

Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu.

 

Basgedi a Mygydau Cwningen y Pasg

Dewch i fwynhau hwyl y Pasg yma gyda ni yn yr oriel, lle gallwch greu a phersonoli eich basgedi papur eich hun ar gyfer y Pasg, sy’n berffaith ar gyfer casglu wyau lliwgar a danteithion blasus. Cewch fynd i ysbryd y Pasg drwy greu eich bandiau pen a’ch mygydau cwningen eich hun – yr ategolion perffaith ar gyfer helfa wyau Pasg hwyliog.

Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau

 

 Eventbrite: Sesiwn Dawel -Basgedi a Mygydau Cwningen y Pasg 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen