I Blant

  • Header image

Sesiwn Dawel- Addurno Canhwyllau a Daliwr Canhwyllau Clai

09 Rhagfyr - 09 Rhagfyr 2023

 

Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr

2pm-3pm| 7+| Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod

Sesiwn Dawel -Addurno Canhwyllau a Daliwr Canhwyllau Clai

Rydym yn cynnig Sesiwn Dawel o’n gweithdai plant.

Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu.

 

Addurno Canhwyllau a Daliwr Canhwyllau Clai

 

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy ar thema'r gaeaf!

Gan ddefnyddio ysbrydoliaeth dymhorol, addurnwch eich cannwyll eich hun ar thema’r gaeaf i oleuo’r nosweithiau tywyll, ac ewch ati i greu eich cannwyll bersonol eich hun. Anrheg berffaith ar gyfer y tymor rhoi rhoddion.

 

Byddwn yn darparu’r canhwyllau, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu.

 Eventbrite:Sesiwn Dawel - Addurno Canhwyllau a Daliwr Canhwyllau Clai 

 

Bydd hwn yn sesiwn hamddenol a hwyliog yng ngofod addysg yr oriel lle bydd plant yn cael eu hannog i fynegi eu creadigrwydd ac arbrofi gyda deunyddiau.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen