I Blant

  • Header image

Peintio potiau blodau ac addurno wyau

19 Ebrill - 19 Ebrill 2025

Dydd Sadwrn 19 Ebrill 2025

11am-12:30pm | 7+| £7

Peintio potiau blodau ac addurno wyau

Nawr lanciau rhoddwn glod, y mae’r gwanwyn wedi dod... Wrth i fyd natur ddeffro o’i drwmgwsg, peidiwch â chael eich gadael ar ôl! Dewch i addurno potiau blodau hyfryd yma yn yr oriel – cewch ychwanegu ychydig o lawenydd at eich cartref a chefnogi bywyd gwyllt ar garreg eich drws drwy greu pot pert y gall blodau’r haf dyfu a blodeuo ynddo. Byddwn hefyd yn addurno wyau lliwgar fel gweithgaredd y Pasg.

 Eventbrite:Peintio potiau blodau ac addurno wyau
 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen