I Blant
Paentio Cregyn a CherrigGweithdai i Blant Am Ddim
02 Awst - 02 Awst 2019
11yb - 1yp | Am Ddim | Addas i blant 7+ oed
Mae positifrwydd yn rocio! Felly, byddwn ni’n ei hybu drwy baentio casgliad o negeseuon cadarnhaol ar gerrig a chregyn wedi’u hel o draethau lleol. Yna, gallan nhw gael eu gosod o gwmpas y tŷ a’r ardd neu eu rhoi fel anrhegion i ffrind neu berthynas.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi, ar 01792 652016 neu e-bostio email education@missiongallery.co.uk
Darperir deunyddiau, nifer cyfyngedig o leoedd, rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.