I Blant
Marmori PapurGweithdai i Blant
26 Gorffennaf - 26 Gorffennaf 2019
11yb - 1yp | £6 | Addas i blant 7+ oed
Ydych chi erioed wedi clywed am bapur wedi’i farmori neu ‘farmori’? Mae marmori’n cael ei ddefnyddio i addurno papur ers canrifoedd. Roedd pobl Oes Fictoria’n arbennig o hoff ohono. Efallai’ch bod wedi’i weld yn cael ei ddefnyddio y tu mewn i gloriau hen lyfrau. Byddwn yn treulio’r diwrnod yn marmori papur ac amlenni ym mhob math o liwiau a phatrymau, gan arbrofi â thrin a thrafod yr inc ar wyneb y dŵr a’i ddal ar bapur.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi, ar 01792 652016 neu e-bostio email education@missiongallery.co.uk
Darperir deunyddiau, nifer cyfyngedig o leoedd, rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.