I Blant
HunanbortreaduGweithdy i Blant
29 Hydref - 29 Hydref 2020
*Wedi’i ohirio*
11yb-12:30yp | £7.50 | Yn addas i blant 7-12 oed
Mae sut rydyn ni’n gweld ein hunain a phobl eraill wastad wedi cyfareddu artistiaid. Yn y sesiwn yma, bydd cyfranogwyr yn defnyddio ein harddangosfa bresennol Come Fail at Love gan Casper White fel yr ysbrydoliaeth am greu eu portreadau eu hunain. Bydd y myfyrwyr yn edrych ar amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau i greu delweddau deinamig sy’n adlewyrchu pwy ydyn nhw.
Dewch â ffotograff ohonoch chi’ch hun i weithio ohono. Gall hwn fod yn brintiedig neu’n ddigidol.
Cyrraedd a chofrestru:
Pan fyddwch yn gollwng eich plant, dylech giwio y tu allan gan gymryd sylw o’r marcwyr 2 fetr. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu cofrestru wrth y drws gan fynd i mewn i’r oriel a’i gadael fesul un. Bydd system unffordd drwy’r oriel.
Rhaid archebu a chwblhau ffurflenni caniatâd ar-lein cyn y dosbarth. Anfonir ffurflenni caniatâd drwy e-bost unwaith i le gael ei archebu ar eventbrite. Nid oes mwy na 5 lle ar gael ym mhob sesiwn.
Y Gweithdy:
Bydd pob plentyn yn cael desg a deunyddiau iddo’i hun. Bydd y deunyddiau a’r desgiau hyn yn cael eu glanhau’n drylwyr cyn ac ar ôl pob dosbarth ac wedi’u gosod 2 fetr ar wahân.
Bydd yr arweinwyr a’r staff yn gwisgo masgiau wyneb.
Bydd pob myfyriwr yn derbyn pecyn croeso a fydd yn cynnwys, “cod ymddygiad” wedi’i lamineiddio, ffedog unigol, hylif diheintio dwylo a phecyn o hancesi papur.
Ni fydd yn rhaid i’r plant wisgo masgiau ond byddant ar gael os ydyn nhw’n dewis.
Byddwn yn dilyn gweithdrefn olrhain cysylltiadau (gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir ar eich ffurflenni caniatâd). Os bydd unrhyw unigolyn yn dangos arwyddion o symptomau COVID, hysbysir yr holl gyfranogwyr ac mae’r sesiynau’n debygol o gael eu canslo rhag ofn.
Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol. Dylech fod ar gael yn ystod y sesiynau, pe bai angen i ni gysylltu â chi i gasglu’ch plentyn.
Os ydych chi neu’ch plentyn yn teimlo hyd oed ychydig bach yn anhwylus byddwn ni’n gofyn i chi aros gartref ond rhowch wybod i ni os na fydd eich plentyn yn mynychu’r sesiwn y diwrnod hwnnw.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk
Darperir deunyddiau, nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw.
Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.