I Blant

  • Header image

Gŵyl Grefftau’r Hydref: Mygydau anifeiliaid y goedwig

02 Tachwedd - 02 Tachwedd 2024

Dydd Sadwrn 2 Tachwedd

11am-12:30pm | 7+ | Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod

 

Gŵyl Grefftau’r Hydref: Mygydau anifeiliaid y goedwig

Wrth i’r dyddiau fynd yn dywyllach ac ychydig yn oerach, ac wrth i’r dail ddechrau ddisgyn, ymunwch â ni fel teulu yn yr oriel i ddathlu’r newid hyfryd hwn mewn natur. Gadewch i swyn y tymor ysbrydoli eich creadigrwydd trwy fynd ati i wneud mygydauo greaduriaid y goedwig sydd ar eu prysuraf yr adeg hon o’r flwyddyn...Cewch gyfle hefyd i beintio cerrig lliwgar i’w gwasgaru o amgylch eich cartref a’ch gerddi. Mae dathlu’r goleuni yn bwysig iawn i lawer o gymunedau yr adeg hon o'r flwyddyn. Ymunwch â ni yn yr oriel i greu mwclis pom pom ar ffurf blodau lliwgar i ddod â lliw a llawenydd i unrhyw ddathliad.

 Eventbrite: Gŵyl Grefftau’r Hydref  

Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen