I Blant

  • Header image

Gwneud stampiau arswydus a phaentio pwmpenni

28 Hydref - 28 Hydref 2023

 11am-12:30pm | 7+ | Croesewir rhoddion ar y diwrnod

 

 

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy ar thema calan gaeaf!

Gan ddefnyddio ysbrydoliaeth dymhorol, ewch ati i greu eich stamp arswydus eich hun i addurno bagiau calan gaeaf personol a phaentio pwmpen.

Byddwn yn cyflenwi’r pwmpenni, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu.

Byddwn hefyd yn siarad am wastraff bwyd a sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich pwmpen dros ben gyda ryseitiau ac awgrymiadau.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

Eventbrite: Gwneud stampiau arswydus a phaentio pwmpenni

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen