I Blant
Gweithdy globau bywAli Warren
20 Awst - 20 Awst 2021
Dydd Gwener 20 Awst
Sesiynau i blant: 10yb-12yp
Addas i blant 7-13 oed
£15
Gan ddefnyddio balŵns a deunyddiau wedi’u hailgylchu, dyma gyfle i greu’ch potyn planhigion a chynwysyddion canwyllau bach eich hun o sment!
Byddwch yn gweithio gyda’r artist Ali Warren sydd â 25 mlynedd o brofiad arbenigol mewn cerameg, gwneud mowldiau, asio mewn odynau a thechnegau slympio gwydr.
Gan ddysgu o brofiad helaeth Ali, byddwch yn creu ac yn addurno ffurfiau sment hardd gyda’ch planhigyn suddlon eich hun i’w blannu i fynd gartre’ gyda chi.
Anelir y gweithdy dwy awr yma at blant yn sesiynau’r bore a bydd ar gael i oedolion a phobl ifainc yn y prynhawn.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bostio megan@missiongallery.co.uk
Darperir deunyddiau. Lleoedd cyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw. Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion hygyrchedd, alergeddau neu gyflyrau meddygol.