I Blant

  • Header image

Garlantau’r Gwanwyn a Dalwyr Haul

05 Ebrill - 05 Ebrill 2024


Dydd Gwener 05 Ebrill 2024

11am-12:30pm | 7+ | Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod

Garlantau’r Gwanwyn a Dalwyr Haul


Gadewch i ni groesawu a mwynhau heulwen y gwanwyn drwy greu dalwyr haul gyda lliwiau a siapiau o’ch dewis chi. Gallwch sirioli unrhyw stafell gyda llawenydd a ffresni’r gwanwyn a byd natur drwy ei haddurno â’ch garlant papur creadigol wedi’i ysbrydoli gan natur.

 

Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.

 

Eventbrite:Garlantau’r Gwanwyn a Dalwyr Haul   


 

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.


<< Yn ôl tudalen