I Blant

  • Header image
  • Header image

Dylunio cymeriad: Tynnu Llun Anghenfil

24 Awst - 24 Awst 2024

Dydd Sadwrn 24ain Awst 2024

11am-12:30pm | 10+ | £7

Dylunio cymeriad: Tynnu Llun Anghenfil

Dewch atom am weithdy tynnu llun a fydd yn llawn dychymyg, lle bydd yr artist gwych Jade Price yn eich tywys drwy egwyddorion dylunio i greu cymeriad creadur. Dyma gyfle i wella eich sgiliau tynnu llun a dod â’ch dychymyg yn fyw yn y gweithdy creadigol hwn. Byddwch yn cael eich arwain drwy bob cam o’r broses ddylunio, o frasluniau bach i’r lluniad terfynol.

Byddai’r gweithdy hwn yn fwyaf addas i unigolion sy’n frwd dros dynnu lluniau.

Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.

 Eventbrite: Dylunio cymeriad: Tynnu Llun Anghenfil 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen