I Blant

  • Header image

Dalwyr Haul Wedi’u Hysbrydoli gan Wydr Lliw

27 Hydref - 27 Hydref 2021

7 – 12 oed

11yb - 12.30yp

Am ddim 

 

Eventbrite

 

Ymunwch â ni yn ystod yr hanner tymor yma am weithdy gwydr lliw papur sidan.

Byddwch yn creu’ch cynllun eich hun ac yn arbrofi â gludweithiau lliwgar i wneud dalwyr haul. Cyfle i loywi’ch ffenestri gartre gydag ambell sioe yng ngolau’r hydref!

 

 

Byddwn yn dilyn gweithdrefn olrhain cysylltiadau (gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir ar eich ffurflenni caniatâd). Os bydd unrhyw unigolyn yn dangos arwyddion o symptomau COVID, hysbysir yr holl gyfranogwyr ac mae’r sesiynau’n debygol o gael eu canslo rhag ofn.

Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol. Dylech fod ar gael yn ystod y sesiynau, pe bai angen i ni gysylltu â chi i gasglu’ch plentyn.

Os ydych chi neu’ch plentyn yn teimlo hyd oed ychydig bach yn anhwylus byddwn ni’n gofyn i chi aros gartref ond rhowch wybod i ni os na fydd eich plentyn yn mynychu’r sesiwn y diwrnod hwnnw.



 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk

Darperir deunyddiau, nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.


<< Yn ôl tudalen