I Blant

  • Header image

Cwrs GwydrGweithdy i Blant

11 Tachwedd - 05 Rhagfyr 2020

Lisa Burkl a Marilyn Griffiths

21 Tachwedd - 05 Rhagfyr 2020

10yb-12yp | 1yp-3yp | £45 | Yn addas i blant 9-12 oed

 

Mae’r cwrs yma’n rhedeg dros 3 dydd Sadwrn yn olynol. Er mwyn cydymffurfio â chadw pellter cymdeithasol ceir dau grŵp. Dewiswch y slot amser sydd orau gynnoch chi wrth archebu. Bydd y slot amser o’ch dewis yn  aros yr un fath drwy gydol y cwrs. Dysgir y cwrs drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.

Bydden ni hefyd yn gofyn yn garedig i chi gydymffurfio â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru a dim ond archebu os ydych yn byw yn ardal Abertawe.

 

 Eventbrite - Clay Animal Faces | Children's workshop 

 

Llwy

 

Wedi’u hysbrydoli gan y gwaith yn sioe arddangos yr artist Chris Bird-Jones, bydd myfyrwyr yn edrych ar drylediad golau drwy gynrychioliad wydr o lwy. Bydd myfyrwyr yn ystyried arwyddocâd symbolaidd a phersonol ‘llwy’ fel delwedd ac arteffact gan ddatblygu’r canfyddiadau hyn drwy arlunio a chelfwaith gwydr, gan ddefnyddio technegau bondio a pâte-de-verre.

 

I roi syniad i chi o’r sesiynau unigol, gweler isod:

 

Dydd Sadwrn 21 Tachwedd

Gan weithio gyda chlai a phlastr, bydd y myfyrwyr yn cynhyrchu mowld plastr gwreiddiol i adeiladu eu dyluniad gwydr ynddo.

 

Dydd Sadwrn 28 Tachwedd

Gan ddefnyddio gwydr wedi’i falurio a’i ddal mewn cyfrwng, bydd y myfyrwyr yn adeiladu powlen y llwy’n barod i’w thanio mewn odyn. Byddant yn ystyried maint y ffrit gwydr, tryloywder a thywyllni.

 

Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr

Bydd y myfyrwyr yn addurno rodiau gwydr i greu coesau i bowlenni eu llwyau gan eu gludio i’w lle.

 

 

Cyrraedd a chofrestru:

Pan fyddwch yn gollwng eich plant, dylech giwio y tu allan gan gymryd sylw o’r marcwyr 2 fetr. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu cofrestru wrth y drws gan fynd i mewn i’r oriel a’i gadael fesul un. Bydd system unffordd drwy’r oriel.

Rhaid archebu a chwblhau ffurflenni caniatâd ar-lein cyn y dosbarth. Anfonir ffurflenni caniatâd drwy e-bost unwaith i le gael ei archebu ar eventbrite. Nid oes mwy na 5 lle ar gael ym mhob sesiwn.

 

Y Gweithdy:

Bydd pob plentyn yn cael desg a deunyddiau iddo’i hun. Bydd y deunyddiau a’r desgiau hyn yn cael eu glanhau’n drylwyr cyn ac ar ôl pob dosbarth ac wedi’u gosod 2 fetr ar wahân.

Bydd yr arweinwyr a’r staff yn gwisgo masgiau wyneb.

Bydd pob myfyriwr yn derbyn pecyn croeso a fydd yn cynnwys, “cod ymddygiad” wedi’i lamineiddio, ffedog unigol, hylif diheintio dwylo a phecyn o hancesi papur.

Ni fydd yn rhaid i’r plant wisgo masgiau ond byddant ar gael os ydyn nhw’n dewis.

 

Byddwn yn dilyn gweithdrefn olrhain cysylltiadau (gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir ar eich ffurflenni caniatâd). Os bydd unrhyw unigolyn yn dangos arwyddion o symptomau COVID, hysbysir yr holl gyfranogwyr ac mae’r sesiynau’n debygol o gael eu canslo rhag ofn.

Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol. Dylech fod ar gael yn ystod y sesiynau, pe bai angen i ni gysylltu â chi i gasglu’ch plentyn.

Os ydych chi neu’ch plentyn yn teimlo hyd oed ychydig bach yn anhwylus byddwn ni’n gofyn i chi aros gartref ond rhowch wybod i ni os na fydd eich plentyn yn mynychu’r sesiwn y diwrnod hwnnw.


 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk

Darperir deunyddiau, nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.

 

<< Yn ôl tudalen