I Blant
Creaduriaid lliwgar a’u Hamgylchedd.
31 Mai - 31 Mai 2024
Dydd Gwener 31 Mai 2024
11am-12:30pm | 7+ | Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod
Creaduriaid lliwgar a’u Hamgylchedd.
Ymunwch â ni yn yr oriel i ddefnyddio celf a chrefft i greu’r diorama perffaith o amgylchedd eich hoff anifail. Boed yn acwariwm wedi’i beintio’n las fel y môr ar gyfer pysgod lliwgar, neu’n jyngl o ffelt ar gyfer adar trofannol, gallwn eich helpu i ddod â’r golygfeydd gwych hyn yn fyw! Byddwn yn dathlu ein dychymyg a’n Daear hyfryd ni o dan yr un to.
Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.
Eventbrite:Creaduriaid lliwgar a’u Hamgylchedd.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.