I Blant
Clwb Crefftau’r GaeafMission Gallery
30 Tachwedd - 22 Rhagfyr 2024
Clwb Crefftau’r Gaeaf
11am-12:30pm | 7+ oed | £20 am 5 Gweithdy
Eventbrite: Clwb Crefftau’r Gaeaf
Hoffech chi droi eich llaw at greu crefftau ar gyfer tymor yr ŵyl? Rydyn ni’n bwriadu cynnal Clwb Crefftau’r Gaeaf yn Oriel Mission eleni. Bydd yn gyfres o 5 gweithdy creadigol drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Ymunwch â ni i ddeffro’r awen greadigol, i wneud ffrindiau newydd ac i ddysgu sgiliau newydd drwy ymgolli ym myd crefftau Nadoligaidd.
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd: Torchau Tymhorol
Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr : Bathodynnau a Magnetau Crefft wedi’u Hailgylchu
Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr: Addurniadau Nadoligaidd wedi’u Hailgylchu
Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr: Tai Sinsir wedi’u gwneud o Gardfwrdd
Dydd Sul 22 Rhagfyr: Addurno eich Papur Lapio a’ch Cardiau eich Hun
Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda'r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.