I Blant

  • Header image
  • Header image

Addurno eich Papur Lapio a’ch Cardiau eich HunMission Gallery

22 Rhagfyr - 22 Rhagfyr 2024

Dydd Sul 22 Rhagfyr 2024

11am-12:30pm | 7+ | £7

 Addurno eich Papur Lapio a’ch Cardiau eich Hun


Rhowch gyffyrddiad personol i’ch anrhegion drwy addurno eich papur lapio eich hun. Cewch gyfle i fynegi eich hun drwy ychwanegu secwins neu liw i greu anrheg unigryw a fydd yn creu argraff y Nadolig hwn.

Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.

Eventbrite: Addurno eich Papur Lapio a’ch Cardiau eich Hun 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.


<< Yn ôl tudalen