I Blant
Addurno Canhwyllau a Daliwr Canhwyllau Clai
09 Rhagfyr - 09 Rhagfyr 2023
Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr
11am-12:30pm | 7pm | Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod
Addurno Canhwyllau a Daliwr Canhwyllau Clai
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy ar thema'r gaeaf!
Gan ddefnyddio ysbrydoliaeth dymhorol, addurnwch eich cannwyll eich hun ar thema’r gaeaf i oleuo’r nosweithiau tywyll, ac ewch ati i greu eich cannwyll bersonol eich hun. Anrheg berffaith ar gyfer y tymor rhoi rhoddion.
Byddwn yn darparu’r canhwyllau, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu.
Eventbrite:Addurno Canhwyllau a Daliwr Canhwyllau Clai
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.