Dysgu i Blant
Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle!
dysgu sgiliau celf newydd
Clwb Celf a Chrefft i Blant
Clwb Celf a Chrefft i Blant
11am-12:30pm
OED 7+
£20 am 5 Gweithdy
Clwb Celf a Chrefft i Blant Yma yn Oriel Mission, rydym yn cynnal ein Clwb Crefft ein hunain i blant, sef cyfres o 5 gweithdy creadigol yn ystod gwyliau'r ysgol: yn y gwanwyn, yr haf a'r gaeaf. Rydym yn cynnig cyfres o 5 gweithdy creadigol am £20. Nod y gweithdai yw i gyfranogwyr fynegi eu hunain yn greadigol, gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau celf newydd drwy ymchwilio i fyd celf a chrefft. Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu, ac mae cyfranogwyr bob amser yn gadael y sesiynau gyda’u crefftau unigryw eu hunain. ;
Sesiwn Dawel:
2pm-3pm
£7
Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu..
Gweithdai Dwyieithog
Caiff y gweithdai hyn eu harwain gan artistiaid proffesiynol a'u cyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r sesiynau'n darparu lle diogel a chreadigol i deuluoedd sy'n dysgu Cymraeg, neu a fyddai'n mwynhau'r cyfle i ymarfer.
Gweithdai Creu ar y Cyd i Deuluoedd
Mae'r sesiynau hyn yn annog teuluoedd i ddarganfod yr hwyl sydd i'w gael wrth greu gyda'i gilydd mewn amgylchedd lle gallant fynegi eu hunain. Dyma weithdai creadigol ymarferol llawen a chefnogol lle gall teuluoedd archwilio a chydweithio mewn gwahanol grefftau.