Arhoswch yn Greadigol, Arhoswch Gartre, Arhoswch yn Ddiogel
Mewn ymgais i gadw’r awenau creadigol ’na i ffrwtian, mae ein hartistiaid Criw Celf hyfryd wedi rhoi at ei gilydd gyfres o weithgareddau i bobl ifainc eu gwneud gartre. Bob dydd Sadwrn, byddwn yn rhyddhau fideo newydd i’ch cadw ar y bêl ac wrthi’n gwneud pethau celfyddydol yn ystod y cyfnod clo. Bydden ni wrth ein boddau rhoi sylw i’ch ymdrechion ar ddiwedd pob wythnos, felly da chi, anfonwch ffotos o’ch creadigaethau a byddwn yn eu postio ar ein cyfryngau cymdeithasol!
Mwynhewch!
Celf Scratchboard, gyda Lucy Donald
DIY Pocket Zine, gyda Kathryn Lewis