Gwobr Jane Phillips

I fentora, meithrin a chefnogi twf artistig proffesiynol egin-artistiaid a’r rhai ar ddechrau eu gyrfa ar draws y celfyddydau gweledol a chymhwysol.

Gwobr er cof am Jane Phillips (1957- 2011), cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission, yw Gwobr Jane Phillips.

Wedi’i lansio yn Oriel Mission yn 2011, bwriedir y wobr fel cynhysgaeth i ddiddordeb ysol Jane mewn mentora a meithrin dawn, gan gynnig cefnogaeth gyson i egin-artistiaid a’r rhai ar ddechrau eu gyrfa ar draws y celfyddydau gweledol a chymhwysol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Gwobr Jane Phillips wedi bod yn llwyddiant ac mae’n esblygu, gan ymateb i’r gymuned artistig ac yn ffurfio partneriaethau newydd. Rydyn ni am ddatblygu ac ehangu cwmpas y wobr drwy gyflwyno dwy wobr gyffrous newydd yn ogystal â rhaglen blwyddyn ar ei hyd o breswyliadau a fydd yn ategu prif Wobr Arddangosfa Jane Phillips.

Gwefan Gwobr Jane Phillips

Tu ôl i’r blwch | Behind the box

Tu ôl i’r blwch | Behind the boxCefyn Burgess

20 Gorffennaf - 21 Medi 2024

Mwy