Y Gwneuthurwr

  • Header image

Ysgol Gelf CaerfyrddinGwneuthurwr Mewn Ffocws

24 Tachwedd - 05 Ionawr 2019

O LAW I LAW

 

Mae’r arddangosfa Gwneuthurydd mewn Ffocws sydd i’w gweld ar hyn o bryd yn dangos gwaith tri aelod o staff Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr: yr artist-emydd Carol Gwizdak, y cerflunydd Lee Odishow a’r ceramegydd Ray Church, pob un wedi derbyn cydnabyddiaeth fel artist ar ei liwt ei hun. Mae’r tri’n cynhyrchu darnau sy’n cyfuno lefel uchel o fedr technegol ag ymagwedd ddeallusol tuag at ddatblygu cysyniad – fel a welir yn y gwrthrychau y maent yn eu gwneud. Mae’r meddylfryd yma a’u hagwedd tuag at eu crefft yn ganolog i’r ffordd y maent yn ymgysylltu â’u gwaith eu hunain ynghyd â myfyrwyr yn eu rôl fel addysgwyr, gan ddylanwadu’n drwm ar sut mae gwybodaeth yn cael ei chyfleu. Yn hyn o beth, mae’r artistiaid unigol yma’n dangos ethos yr Ysgol – ei hymrwymiad i ddarpariaeth sy’n seiliedig ar sgiliau arbenigol a’i henw da amdani’n genedlaethol, wedi’i chyplysu ag ymgysylltiad deallusol i ychwanegu at werth y gwaith a gynhyrchir o ran cyfathrebu.

Mae pob un yn ymgysylltu â datblygiadau cymdeithasol, creadigol a diwylliannol ac anghenion newidiol ei fyfyrwyr, diwydiant a’r gymuned ehangach.

A hithau’n ysgol gelf fechan, gall y staff a myfyrwyr gyfathrebu a chydweithredu’n hawdd ar draws adrannau ac mae’r amgylchedd hynod dechnegol, hyblyg a chreadigol yma’n dylanwadu ar bawb, gan gynnwys y tri artist hyn.

 

Ray Church 

Gan dynnu ar gerameg Roegaidd glasurol fel ei ysbrydoliaeth, mae Ray Church yn dychanu materion gwleidyddol yr oes. Byddai’r hen Roegiaid yn cofnodi straeon am fywyd beunyddiol gan ddefnyddio delweddaeth weledol, yn aml wedi’u trwytho mewn drama a thrasiedi. Yn lle hynny, mae’r artist yn llunio naratifau cyfoes pryfoclyd. Mae siâp y llestri, arddull yr addurno, hyd yn oed rhai o’r patrymau penodol y mae’n eu hailddefnyddio yn hawdd i ni edrych arnynt oherwydd eu bod mor gyfarwydd. Golyga hyn ein bod yn teimlo’n fwy anghyfforddus byth wrth adnabod y testunau tywyll y mae Ray Church yn eu cyflwyno i ni.

Wedi’i hyfforddi yng Ngholeg Celf Caerfyrddin, erbyn hyn mae’n gweithio fel technegydd yn adran y cwrs gradd mewn Cerameg a Gemwaith. Mae ei wybodaeth dechnegol helaeth ynghyd â’i ddiddordeb mawr yn y ffordd y mae celfyddyd o’r gorffennol yn dal i ysbrydoli artistiaid heddiw yn cefnogi datblygiad deallusol a sgiliau myfyrwyr.

 

 

Carol Gwizdak

Wrth ganolbwyntio ar faterion ecolegol sy’n tynnu ar iaith weledol a chysyniadol byd natur, mae Carol yn ymbil arnon ni i ailsefydlu natur ar ei ffurf buraf fel yr adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym. Yn ei gwaith mwy diweddar, mae’r ffocws cysyniadol wedi dod yn fwy taer, wedi’i sbarduno gan holl ansicrwydd ecolegol bythol gynyddol ein byd. Mae darnau’n cwestiynu gwerthoedd byd-eang ein cymdeithas gyfoes a’r ffordd styfnig yr ydym yn ymddihatru â’r blaned.

Wedi’i hyfforddi yn Ysgol Emwaith Birmingham, mae Carol Gwizdak gan mwyaf yn tiwtora myfyrwyr yn adran y cwrs gradd mewn Cerameg a Gemwaith, gan weithio gyda nhw i ddefnyddio techneg a deallusrwydd yn eu gwaith.

 

Lee Odishow

Fel cerflunydd celfyddyd gain, mae Lee yn gweithio ym maes traddodiadol bwrw haearn ac efydd. Drwy’r prosesau hyn, mae’n dogfennu, cadw ac yn gwneud sylwadau am y gwrthrychau y mae’n eu canfod, eu caffael neu eu creu. Diben Odishow yw amlygu neu ychwanegu at yr harddwch a chymhlethdodau cynhenid a geir yn y byd o’n cwmpas. Mae’r broses bwrw cwyr coll yn ei hanfod yn amlosgi’r ffurfiau naturiol, gan adael gwagle a lenwir â’r metel tawdd. Mae’r weithred hon yn anfarwoli gyda pharch yr hyn sydd wedi’i golli, gan roi cyfle i’r gwyliwr i ystyried a gwerthfawrogi priodweddau gorau’r hyn a fu.

 

Wedi’i hyfforddi yng Ngholeg Celf Caerfyrddin fel tiwtor a thechnegydd yn adran y cwrs gradd mewn Cerfluniaeth, mae ei wybodaeth dechnegol, ymagwedd archwiliol chwareus a’i sylw i fanylion yn dylanwadu ar y myfyrwyr y mae’n gweithio gyda nhw.

 

 

 

Image/Delwedd: Carol Gwizdak, Borderline 2018, Mixed Media. 

<< Yn ôl tudalen