Y Gwneuthurwr

  • Header image

Welsh BasketsClare Revera

14 Ionawr - 23 Mawrth 2023

Mae Clare Revera yn gwneud basgedi Cymreig traddodiadol ac anhraddodiadol ac eitemau eraill wedi’i gwneud o helyg ac wedi’u hysbrydoli gan liwiau a deunyddiau’r dirwedd o’i chwmpas. Mae hi’n frwd dros weithio gyda deunyddiau naturiol, cynaliadwy a geir yng nghefn gwlad lleol; cyll, helyg a bedw yn benodol. Mae hi hefyd yn tyfu ei gardd ei hun, yn ei chae yn Sir Benfro ac mewn mannau cymunedol lleol.

Mae Clare yn troi’r deunyddiau hyn yn fasgedi, yn gerfluniau ac yn eitemau defnyddiol ar gyfer y cartref a’r ardd, gan ddefnyddio technegau a dyluniadau traddodiadol hên ond gan ychwanegu ei hymdeimlad ei hun o hunaniaeth o ran y lliwiau a’r nodweddion addurnol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn basgedi lleol ac mae’n gwneud y Cyntell gron yn rheolaidd mewn amrywiaeth o feintiau, basgedi bach ar gyfer y siopwr 

Cymreig, basged Welsh Tea Things a’r Fasged Gower Cockel Picking. Mae wrth ei bodd bod y basgedi hyn wedi cael eu gwau a’u defnyddio drwy’r amser yng Nghymru. Dysgodd Clare y sgiliau a’r technegau ar gyfer gwehyddu’r basgedi hyn gan brif grefftwyr sydd wedi ymrwymo i drosglwyddo eu sgiliau.

Mae Clare yn aelod o The Maker's Guild yng Nghymru ac mae’n Aelod Iwmon o'r Worshipful Company of Basketmakers. Caiff ei gwaith ei arddangos yn barhaol yn Crefft yn y Bae ac yn 2018 fe’i comisiynwyd i wehyddu’r fasged gyfoes i gyflwyno’r Adran Blanhigion ar gyfer yr Oriel Grefftau newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

 

Delwedd: Cyntell, Clare Revera

<< Yn ôl tudalen