Y Gwneuthurwr
Toni de JesusGwneuthurwr mewn Ffocws
21 Medi - 09 Tachwedd 2019
Mae fy ngwaith a’m hethos yn troi o gwmpas y syniad o gerameg a’i chysylltiad agos â chrefft – fel deunydd a’i chyd-destun yn y sbectrwm celfyddyd gain.
Dyma rywbeth y mae’n well gan Jorunn Veitiberg (2005) ei alw’n ‘rhyngofod’ neu a bod yn fwy manwl gywir y gofod rhwng y swyddogaeth a’r hyn nad yw’n swyddogaeth, traddodiad a thorri traddodiad, celfyddyd sy’n seiliedig ar grefftwaith a chelfyddyd sy’n seiliedig ar syniadau. Mae cwestiynau a godir gan y drafodaeth yma’n atseinio drwy fy ngwaith.
Edrychir ar gyfansoddi ac arddangos gan gyfeirio at y cartref beunyddiol cyfarwydd lle deuir ar draws cerameg drwodd i ystafelloedd porslen palasau a thai crand.