Y Gwneuthurwr

  • Header image

The Silver DuckCharlotte Anne Duckworth

01 Hydref - 12 Tachwedd 2022

Sefydlwyd The Silver Duck yn 2012 gan Charlotte Anne Duckworth, sy’n gof arian o Fryste.

Mae The Silver Duck yn dylunio ac yn cynhyrchu gwaith arian, llestri a gemwaith artisan. Mae hi’n creu offer cegin a llestri hyfryd gan ddefnyddio arian a phren celyn Seisnig, sy’n rhoi teimlad crand i’r cartref. Mae Charlotte yn creu darnau celf cyffrous ac ymarferol ar gyfer y gegin er mwyn dod â phobl at ei gilydd dros fwyd a bod yn bresennol yn y foment. Mae ei hethos yn ymwneud â dyluniadau syml, cain sy’n ergonomig a chyffyrddol. Y bwriad yw procio pobl i werthfawrogi eu bwyd ac i gymryd amser wrth wneud tasgau bob dydd yn y gegin. Gan ddefnyddio technegau traddodiadol o ofannu a chodi, mae gan Charlotte ddealltwriaeth gynhenid o’r deunyddiau y mae’n gweithio gyda nhw, gan greu darnau hudol sy’n cadw eu rhinweddau naturiol.

Mae The Silver Duck yn addysgu ac yn rhannu gwybodaeth drwy gynnig gweithdai gemwaith a gof arian a chyrsiau i’ch cyflwyno i fyd y gof arian.

 

Delwedd: Pelen Dê gan Charlotte Anne Duckworth

<< Yn ôl tudalen