Y Gwneuthurwr

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Sophie WoodrowGwneuthurwr Mewn Ffocws

05 Tachwedd - 12 Ionawr 2014

Ers yn ifanc, mae Sophie wedi diddori mewn gweithio gyda clai. Ganwyd ym Mryste yn 1979,a graddiodd o Goleg Celf Falmouth gyda BA Serameg Stiwdio yn 2001. Ers hynny mae wedi arbenigo ei thechneg manwl ac iaith gweledol cymeriadol. Mae pob darn wedi eu hadeiladu â llaw, gan ddefnyddio coilio, addurno a chywasgu i greu arwyneb llawn gwead cynnil.

Iddi hi pobl yr Oes Fictoria oedd y genhedlaeth cyntaf i ddewis diffinio natur yn wrthwynebol i’r hyn sydd yn ddynol; hwn sydd yn cyfeirio’i gwaith. Yn llawn chwilfrydedd, ac hefyd arlliw o ddychryn, addolodd rhain natur, a’i ‘becynnu’ i weithiau celf rhamantaidd a dymunol. Mae ein dealltwriaeth modern yn wahanol iawn, lle dehonglwn llawer o gelf Fictorianaidd yn ‘annaturiol’ neu kitsch. Gan ddilyn diddordeb mewn hanes naturiol,edrychodd Sophie yn benodol ar ein theorïau esblygiad. Ysbrydolwyd ei gwaith gan gamddehongliadau tystiolaeth daearegol yr oes,yn aml gydag hunan hyder ffug. Ystyrier y camddehongliadau yma fel gêm o Sibrydion  Tseiniaidd wedi ei chwarae dros filenia.

Nid ymwelwyr o fydoedd eraill yw’r cerfluniau yma, ond ‘beth-all-fod’ y byd yma.  Ei nod yw cydosod creaduriaid o syniadau rhyfedd o’r  hyn diffiniwn fel ‘natur’ ac o’n gilydd fel pobl - fel ‘arall’.

<< Yn ôl tudalen