Y Gwneuthurwr

  • Header image

Carly Wilshere-ButlerY Gwneuthurwr

13 Tachwedd - 11 Ionawr 2020

Carly Wilshere-Butler

Ceir cysylltiad hanfodol rhyngddon ni a’r byd natur sydd o’n cwmpas ac mae gwir angen ein hempathi ag ef. Mae cadwraeth yn faes sy’n bwysig iawn i mi ac yn aml yn porthi fy ngwaith yn enwedig trafferthion y peillwyr. Ar brosiectau diweddar, dw i wedi cydweithio’n agos â gwyddonydd o fferm bryfetach Dr Beynon a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol. Fy ngwaith yw ymchwilio i sut gall llais bach a thawel gyfrannu rhywbeth o bwys i gymdeithas sy’n rhoi gwerth ar sgwrs rodresgar.

Yn ddi-os, mae fy ngwaith dylunio’n deillio o brosesau ffotograffig amgen yn yr ystafell dywyll. Tynnir y cynnwys o harddwch di-glod natur a’r ffordd dw i’n cael fy nghyfareddu gan bethau brau a byrhoedlog. Dw i’n ceisio eu cofnodi neu’u rhewi cyn iddynt bylu. Mi fydda i’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau a deunyddiau gan gynnwys gwydr, metel ac enamel. Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn arbrofi gyda chreu darnau sy’n amlsynnwyr ac sy’n dal sain a chyffyrddiad yn ogystal â bod yn ysgogol yn weledol.

<< Yn ôl tudalen