Y Gwneuthurwr

  • Header image

Shimara CarlowGwneuthurwr Mewn Ffocws

01 Mehefin - 30 Mehefin 2011

Ganed Shimara Carlow yn Iwerddon ac astudiodd yn Ysgol Gelf Glasgo. Symudodd i Awstralia yn ddiweddar. Ysbrydoliaeth y gwaith yw diddordeb plentyn o gasglu cregyn, cerrig, pyrsiau môr, plu a podiau o ochr y môr. Mae ei gemwaith yn gyffyrddol ac organig ac wedi’i ysbydoli gan ffurfiau naturiol, yn enwedig podiau hadau. Mae’r casgliadau yn cynnwys “Daisy”, “Acorn Cup”, “Acorn Cup Wrap” a “Silver Acorn Cup Wrap”. Adeiladir y gemwaith ar raddfa bach a mawr o gwpannau unigol mês a darnau llygaid y dydd. Rhoddir y cwpannau yma i hongian ar gadwynau hir gyda cymalau neu wedi’u gosod mewn adeiladweithiau cymhleth o wifrau i addurno’r corff. Mae’r modrwyon ‘wrap’ arian ac aur 18carat yn cynnwys diamwntau, saffirau pinc, aquamarine a tourmaline pinc a gwyrdd. Gwertha Shimara ei gemwaith yn genedlaethol a rhyngwladol trwy ddetholiad o orielau, siopau, ffeiriau ac i gomisiwn.

 

<< Yn ôl tudalen