Y Gwneuthurwr

  • Header image

Sarah Reason-JonesY Gwneuthurwr

20 Gorffennaf - 28 Medi 2024

Y dylanwad y tu ôl i waith tecstilau Sarah yw datgelu hanfod strata arfordirol Sir Benfro. Mae’r clogwyni ar hyd yr arfordir garw hwn yn fwy na ffurfiannau daearegol, maent yn naratifau byw sy’n adrodd hanes amser a dawns fythol byd antur. Mae dylanwad a phresenoldeb y clogwyni ysbrydoledig yn awen iddi ac yn ei harwain i sylwi ar y gwahaniaethau cynnil sy’n digwydd wrth iddynt drawsnewid o un tymor i’r llall.

Mae ei phroses artistig yn cynnwys arsylwi a chofnodi lliw a gwead y clogwyni hyn yn fanwl iawn. Gan ddefnyddio’r tapestri gweledol cyfoethog hwn, mae hi’n ymchwilio i fyd cymhleth o ffabrig ac edau wedi’u lliwio â llaw, ac yn arbrofi gyda thrin ffabrigau a gwaith brodwaith gyda pheiriant a llaw.

 

Delwedd: Preseli 1. Sarah Reason-Jones

<< Yn ôl tudalen