Y Gwneuthurwr

  • Header image

Samantha SilvertonY Gwneuthurwr

30 Medi - 14 Tachwedd 2020

Dw i’n creu gludweithiau a chydosodiadau ceramig a ysbrydolir gan y dirwedd. Drwy ddal hanfod lle arbennig, wrth weithio o gyfres o eiliadau ac yn dibynnu ar yr atgofion a’r emosiynau sy’n codi, dw i’n arbrofi gyda lliw a gwneud marciau gyda rhyw egni bywiog a greddfol, gan greu paentiadau mynegol ar bridd wedi’i danio.

Dw i’n hoffi’r arlliwiau cynnes, bywiogrwydd a dyfnder lliw y gellir eu cael wrth ddefnyddio slipiau ar gorff clai priddwaith coch. Bydda i’n defnyddio slipiau mewn amryw o ffyrdd i greu dyfnder a manylder. Bydd fy symudiadau ac ystumiau wrth wneud marciau’n digwydd mewn ffordd reddfol – dw i’n ceisio peidio â dadansoddi neu feddwl gormod am y rhan yma o’r broses wneud. Mi fydda i’n gweithio ac yn ymateb yn reddfol – adwaith i’r un gynt yw pob strocen frwsh newydd, gyda phob dab, sblash a fflic newydd o liw’n creu rhythm a llif naturiol ar gyfer pob darn.

Mae fy llestri wedi dod yn baentiadau 3 dimensiwn. Dw i’n cael blas ar y ffurfiau afreolaidd sy’n cael eu hadeiladu a’r cysylltiadau rhwng y tu mewn, y tu allan, asiadau ac ymylon. Mae’r llestri hyn yn adlewyrchu’r ymylon yn y dirwedd sy’n fy ysbrydoli cymaint – mae pob darn yn unigryw.

<< Yn ôl tudalen