Y Gwneuthurwr

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Roger MossGwneuthurwr Mewn Ffocws

11 Mehefin - 28 Gorffennaf 2013

Cerflunydd â 40 mlynedd o brofiad yw Roger Moss, yn seiliedig yng Nghaerfyrddin, un sydd wedi gweithio gydag amryw o offer, technegau a defnyddiau traddodiadol a chyfoes. Mae wedi arddangos ym Mhrydain, Ewrop ac Awstralia ac mae ei waith mewn nifer o gasgliadau, preifat a chyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, Oriel Gelf Glynn Vivian a Chymdeithas Celf Gyfoes Cymru.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi archwilio y byd AR FLAEN rhaglennu cyfrifiadurol haptic wedi’u cyfuno gydag adeiladu prototeipio cyflym a thechnoleg printio 3D, yng Nghanolfan Cenedlaethol Dylunio Cynnyrch a Datblygiad Ymchwil (P.D.R.), Prifysgol Fetropolitan  Caerdydd (U.W.I.C.). Dengys y gwaith yma rhai o ganlyniadau yr ymchwil yna.

Dywed rhai bod yr offer technolegol yma yn ffurfio sylfaen chwildro diwydiannol newydd mewn gwneuthuriaeth, ond yr apêl i’r artist neu’r crefftwr yw eu bod yn offer cyffrous sydd yn cynnig ffyrdd newydd o feddwl a gweithio.

Pe bawn i’w cymryd heb rhagfarn, gan gofleidio’u hagweddau hanfodol, mae’r posibiliadau, potensial a’r cyfleoedd o estheteg newydd ar gael i’r artist.

Am | Roger Moss

Cerflunydd yw Roger Moss. Mae wedi arddengos ei waith ym Mhrydain, Ewrop ac Awstralia ers dros pedwar deg mlynedd. Roedd yn Brif Ddarlithwr a Pennaeth Cerflunwaith yng Ngholeg Celf a Thechnoleg Caerfyrddin (1972-95), ac mae’n ymchwilio ceisiadau cerflunol technolegau digidol yng Nghanolfan Cenedlaethol Dylunio Cynnyrch a Datblygu Ymchwil (PDR), UWIC. Yn Gynghorydd Cenedlaethol i’r ACW ers 2002.

<< Yn ôl tudalen