Y Gwneuthurwr
Pinch it PotteryZachary Dunlap
30 Mawrth - 18 Mai 2024
Mae gwaith Zachary Dunlap o Pinch it Pottery, yn canolbwyntio ar gemeg gwydredd ceramig ac yn fwy penodol, cerameg grisialog.
Mae’n grefftwr sy’n llunio llestri ar droell, ac mae’r ffurfiau y mae’n dewis eu gwneud wedi’u hysbrydoli gan ymylon caled a meddal y byd o’i gwmpas. Mae’n creu crochenwaith swyddogaethol ac answyddogaethol, cerflunwaith, a chrochenwaith ar raddfa fawr wedi’i wisgo mewn crisialau.