Y Gwneuthurwr

  • Header image

Nick Davies, Sasha Kingston a Jayne WalkerY Gwneuthurwr

24 Gorffennaf - 28 Awst 2021

Chwiliodd Nick Davies, Sasha Kingston a Jayne Walker am bartneriaeth artistig ar gyfer eu dulliau esthetig tebyg a’u hegwyddorion ffenomenolegol sy’n gysylltiedig â’r dirwedd esblygol.

Mewn byd sy’n mynd yn gynyddol dechnolegol lle nad ydym yn sylwi ar yr amgylchedd o’n cwmpas, mae’r thema o greu presenoldeb cysegredig yn fwy perthnasol nag erioed o’r blaen. Gyda hyn mewn golwg, mae Nick, Sasha a Jayne yn anelu at greu gosodiadau meddylgar gyda’r bwriad o’n hannog i arsylwi ac ail-gysylltu â’n hamgylchedd naturiol.

 

Nick Davies

Mae natur yn sail i ymarfer celfyddydol Nick ac felly ei nod yw edrych ar ail-integreiddio natur i gelf drwy gipio egni a rhythm y byd naturiol. Wedi’i hysbrydoli gan y dirwedd, mae ei hamgylchedd arfordirol yn hanfodol i’w chrefft fel artist gweledol. Mae ffurfiau clai sydd wedi’u hadeiladu a’u hysbrydoli gan siapiau organig, neu wrthrychau naturiol (cerrig mân/ carreg strata) sy’n cael eu castio â phlastr, wedi gwneud iddi ganolbwyntio ar yr agweddau mwy ffisegol o freuder a chryfder y byd naturiol.

Darllenodd Nick yn helaeth am gerrig ‘glan neidr’ sef cerrig gyda thyllau ynddyn nhw a’r credoau ysbrydol a’r priodweddau gwellhad sy’n gysylltiedig â cherrig cyfriniol. Mae’r cysyniad o archwilio safbwyntiau a welir drwy dwll silindraidd mewn hen garreg wedi dal ei dychymyg ac, yn ei dro, mae wedi codi chwilfrydedd ynghylch sut mae daeareg, archaeoleg, ysbrydegaeth a chelf yn cydgysylltu.

 

Jayne Walker

Mae meddwl am dirwedd sy’n cael ei adlewyrchu mewn cronfa ddŵr wedi bod yn ysbrydoliaeth allweddol i Jayne. Roedd themâu ymwybyddiaeth ofalgar, llonyddwch a gwellhad yn ei hatgoffa o adlewyrchiad mewn llyn mynydd yng Ngogledd Cymru. Rhoddodd hyn ymdeimlad o dawelwch a sicrwydd iddi ar ôl clywed am brofedigaeth deuluol. Credai’r hen bobl bod dŵr yn rym cysegredig ac iachusol a bod yr arwyneb adlewyrchol yn ffordd drwodd i le “Arallfydol”. Felly, mae hi wedi bod eisiau gwneud gwaith sy’n tynnu sylw at y ddrychddelwedd, gan ddangos natur fyfyriol ac adferol adlewyrchiad o fewn y dirwedd.

Mae Jayne yn cael ei chynrychioli gan Oriel 57 yng Ngorllewin Sussex.

 

Sasha Kingston

Ers ymchwil ôl-radd Sasha, ar Decstilau Gwneuthuredig, yn y Coleg Celf Brenhinol, mae hi wedi parhau i ddatblygu a chael ei hysbrydoli gan ddefnyddio mwydion papur fel cyfrwng artistig.

Yn ystod y broses greadigol fympwyol, mae delweddau’n ymddangos sy’n haniaethol, yn amhenodol eu cynnwys, ac yn llawn teimlad. Mae ysbrydoliaeth yn dechrau gydag astudiaethau maes sy’n cynnwys lluniau a ffotograffau cyfryngau cymysg, wedi’u dilyn gan waith llyfr braslunio manwl yn ei stiwdio sy’n ymhelaethu, yn dehongli ac yn datblygu delweddau. Mae hyn yn golygu gwneud papur, argraffu a dehongli marciau a symudiad llinellau o fewn ardaloedd ynysig. Mae ei phrofiadau helaeth a’i delweddau cynhwysfawr yn ei llyfr brasluniau yn gamau cychwynnol ysbrydoledig yn ei harddangosfa derfynol.

Delwedd: High Plateau, Jayne Walker

<< Yn ôl tudalen