Y Gwneuthurwr
Nia RistGwneuthurwr mewn Ffocws
17 Hydref - 17 Tachwedd 2018
Argraffwr a dylunydd print i’r farchnad gyfoes fewnol, gan arbenigo mewn cynhyrchion graffigol wedi eu printio a llaw yw Nia Rist. Mae ei chasgliad yn amrywio o gysgodlen, clustogau, dodrefn a chyfwisgoedd wedi’u hargraffu a llaw, gan argraffu printiau unigryw cyfyng a phrintiau ailadroddus.
Gyda steil graffigol unigryw, defnyddia colaj fel sylfaen i’w syniadau, gan eu trawsnewid i ffabrig gyda stensiliau ‘handout’. Mae siawns yn chwarae rhan arweiniol o fewn ei hymarfer, crëir ei phrint fel fe’i cynhyrchir, gan alluogi rhyddid wrth chwarae.
Mae argraffu sgrin yn rhan allweddol o ymarfer Nia, gan ddefnyddio’r broses i ddathlu’r berthynas rhwng motifau graffigol a phrintiau ailadroddus lliw tywyll. Gyda du yn lliw pendant yn ei phalet, gan galluogi iddi drochi’i hun mewn patrwm.