Y Gwneuthurwr

  • Header image

Natalia DiazGwneuthurwr Mewn Ffocws

01 Hydref - 21 Hydref 2011

Ennillydd y Fedal Aur yn Eisteddfod Cenedlaethol Cymru 2010. Artist Portiwgaleg ydyw wedi’i lleoli yng Nghymru, gweithia yn bennaf yn cerameg ac y mae’n adnabyddedig am ei chalonnau a gwrthrychau cerameg. Dechreuodd Vida e Morte pan oedd Natalia yn astudio ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Cyfieitha Vida e Morte i ‘Bywyd a Marwolaeth’ ac i Natalia mae’r gwaith yn symboli hanfod y cyflwr dynol; yn ymgorffori cariad, natur, bywyd a marwolaeth.

Wrth weld potensial Natalia fel artist gweledol, rhoddodd Oriel Mission y cyfle iddi archwilio a datblygu ei thechneg o greu rhinweddau darfodedig yn cerameg. Meddianna cerameg Vida e Morte briodwedd dros-dro lle mae’r gwaith â diwedd agos a dinistriol, gan adael ond lludw. Awgryma’r gwaith ein breuder a’n tueddiadau hunan ddinistriol a’r cryfder mewnol i atgyweirio a chodi o’r lludw. Mae cylch natur yn ingol yn anadliad curol rhythm cyson y gwaith fideo.

Dengys Vida e Morte  yn flaenorol fel fideo, ond y mae’n fyw o fewn Oriel Mission fel darn sefydledig am Gwneuthwr mewn Ffocws, yn mynegi breuder darfodedig bywyd a’i brydferthwch gostyngedig, o ddechreuad y darn i’w ddiwedd agos.
  

<< Yn ôl tudalen