Y Gwneuthurwr

  • Header image

Naori PriestlyGwneuthurwr Mewn Ffocws

14 Ionawr - 10 Chwefror 2013

Graddiodd Naori Priestly, ganwyd yn Japan, gyda gradd MA Cyfrwng Amrywiol o’r Coleg Celf Brenhinol, Llundain ac astudiodd cerflunwaith yn Tokyo ac Efrog Newydd. Gweithia hi o’i stiwdio yn Llundain. 

O ongl darluniol a bywgraffiadol, mae gwaith Naori yn cyfleu’r ochr dywyll, sinistr o fywyd pob dydd gyda gorffeniad doniol. Defnyddia sgiliau crefft tecstil domestig, er enghraifft gwau â llaw, crochet, brodwaith, appliqué a ffeltio llaw mewn cyfuniad â thechnoleg digidol fel brodwaith cyfrifiadurol.  

O’r gyfres Kitchen Sink Drama, gofynna’r bag te brodwaith enfawr Mrs. Tracy Twining “Pwy yw’r tecaf ohonynt oll?” wrth ochr cwpannau, soseri a llwyau papur du wedi’u gwneud â llaw. Dywed ei gwaith am chwedlau gwerinol a hwyangerddi plant ‘lle mae realiti, breuddwydion ac hunllefau yn ymdoddi i un fyd swrrealaidd’ trwy swyn chwareus llygredig.

 

<< Yn ôl tudalen