Y Gwneuthurwr
Nancy FarringtonY Gwneuthurwr
05 Hydref - 23 Tachwedd 2024
Mae Nancy Farrington yn gweithio trwy gastio ag odyn i archwilio defnyddioldeb gwydr trwy lens tecstilau. Gan ddefnyddio technegau trin ffabrig fel smocio a chrychu, mae hi wedi datblygu ei phrosesau unigryw ei hun i gastio tecstilau’n uniongyrchol mewn gwydr, gan ganiatáu iddi archwilio’r cydadwaith rhwng nodweddion deunyddiau gwrthgyferbyniol - meddal a chaled, tryloyw ac afloyw, bregus a chadarn. Gan weithio gyda thaeniad naturiol ffabrig a chyfyngiadau castio, mae’n caniatáu i’w ffurfiau cerfluniol godi’n ddigymell yn ystod y broses o’u ffurfio, gan arwain at gymysgedd eclectig o siapiau gyda chysylltiadau esthetig â daeareg, melysion, a ffurfiau corfforol. Mae hanesion diwylliannol pwytho yn trwytho ei gwaith â themâu benyweidd-dra, gwaith menywod, ffasiwn hanesyddol a hiraeth, gan hefyd adlewyrchu ei diddordebau personol a’i hymchwil.