Y Gwneuthurwr

  • Header image

Mhairi TreharneY Gwneuthurwr

11 Mehefin - 17 Gorffennaf 2021

Mae gwaith Mhairi yn fach, maint cerdyn post yn aml, gan ddarlunio tirweddau a chymeriadau o’i gorffennol. Paratoir y paentiadau bach i hongian drwy greu harnais o ffrâm i bob un drwy blethu gwifrau a’u pwytho i’w lle. Mae dwy ochr i bob llun, y blaen a’r cefn, gan roi rhwydd hynt i chi edrych arnynt fel y mynnoch chi. Mae’r ddau wyneb yn cynnwys dwy elfen o’r un testun. Yn aml, cyfrinach yw’r cefn sy’n hysbys i Mhairi a pherchennog y gwaith yn unig. Diddordeb Mhairi Treharne yw’r llinell gul rhwng crefftwaith a chelfwaith a’i nod yw creu gwrthrychau sy’n hollol unigryw a gwerthfawr.

Yn artist o Ganada, ganed Mhairi i fam o’r Alban a thad o Gymru yn Toronto. Mae ei stiwdio yn Cheltenham.

<< Yn ôl tudalen