Y Gwneuthurwr
Melanie TomlinsonPadurea Romaneasca
13 Tachwedd - 06 Ionawr 2013
Cyflwyna Melanie Tomlinson am ei phroffeil fel gwneuthurwr mewn ffocws, ‘Padurea Romaneasca’ sef, The Romanian Forest; cyfres o ddarnau wedi’u hysbrydoli gan y chwedlau a’i theithiau yn Nhransylvania.
Gweithia Melanie gyda darlunio a metel i greu cerflunwaith dirgrynol a manylgar a dioramas tri dimensiwn sydd yn cyfleu ei chariad tuag at natur. Mae ganddi ddiddordeb yn rhan naratif gwerin traddodiadol i archwilio’r berthynas cymhleth rhwng cymunedau a’r byd naturiol.
Mae gan Melanie gysylltiad personol â Romania a’i bobl a’i dirlun. “Mae Romania yn agos i’ nghalon”, cyfaddef hi, “... i mi mae’n naturiol i rhannau o’r diwylliant ddarganfod ei ffordd i fy ngwaith. Rwy’n hoff o gamu i fydau gwahanol i archwilio’r anghyfarwydd a’r syniad o ddirgelwch, o’r ‘arall’, sydd hefyd yn bresennol.
Am dros pymtheg mlynedd mae Melanie wedi datblygu ac arbennigo ei thechneg o brintio ar fetel. Dechreuir y broses gofalus yma wrth greu peintiadau gouache gwreiddiol, lliwgar a cymhleth sydd yn actio fel meistr i’r boses printio. Caiff y metel ei brintio â llaw a’i orchuddio cyn ei dorri, plygu, llithio, llyfnhau a’i drawsnewid i gerflunwaith storiol llawn lliw, bydoedd dirgel mân, dioramas a chelflunau bychan.
Manylion cudd heigiol – yn ffisegol fel carn ar automata; cynhwysydd mewnol cyfrinachol ar gyfer dal trysorau – neu naratif – patrwm lês wedi’i gyfansoddi o anifeiliaid bychan. Mae’r manylion ond i’w gweld ar arsylwad agos.
Am | Melanie Tomlinson
Astudiodd Melanie Dylunio yn Ysgol Gelf Birmingham. Mae’n gweithio o’i stiwdio cartref yn Birmingham ac hefyd fel arweinwr prosiectau cyfranogol. Ennillodd saith gwobr am ei gwaith a gellid darganfod ei cherflunwaith yng nghasgliadau yma a tramor.