Y Gwneuthurwr
Mary Ann SimmonsY Gwneuthurwr
26 Tachwedd - 07 Ionawr 2023
Mae Mary Ann Simmons wedi ei selio yn Ne Cymru, ac mae hi’n un o brif gofaint arian y DU sy’n canolbwyntio ar ddylunio. Mae hi’n arbenigo mewn ffurfiau llinellol syml a glân a thrysorau teuluol personol ar gyfer y dyfodol. Mae pob darn wedi’i wneud mewn sterling neu arian Britannia ac wedi’i wneud â llaw i’r safonau uchaf o ran crefft a dylunio.
Caiff ei gwaith ei gadw mewn casgliadau preifat ledled y byd, gan gynnwys Worshipful Company of Goldsmiths, yr Amgueddfa Brydeinig a’r Amgueddfa Celf Fodern yn Efrog Newydd, ac fe’i cesglir gan enwogion ac unigolion preifat fel ei gilydd.
Delwedd: Ease inout Cubic gan Mary Ann Simmons.
Delwedd gan: Richard Valencia