Y Gwneuthurwr

  • Header image

Marek LíškaY Gwneuthurwr

07 Mai - 18 Mehefin 2022

Avant-garddwr cerameg, crefftwr, cerflunydd. 

Wedi’i eni yn Slofacia, bu Marek yn hyfforddi yng Nghaerdydd lle mae’n byw. Fel ‘garddwr cerameg’ mae Marek yn cynhyrchu gwrthrychau drwy ryngweithiadau cydymdeimladol a chwareus gyda chlai. Yn gwneud i’r deunydd anorganig ddod yn fyw. Yn cynhyrchu cerfluniau a phaentiadau sy’n cael eu troi’n wahanol ffurfiau. Hunanbortreadau haniaethol o’u rhyngweithiadau â’r byd – gan greu a threulio.

Maent yn edrych ar dwf sy’n rhwydd, yn amrywiol ac yn drawsnewidiol, gan ddal tryloywder ein bydoedd materol ac emosiynol.

Ac yntau wedi’i wreiddio mewn traddodiad, yn bennaf mae Marek yn defnyddio cleiau a thechnegau adeiladu cyntefig ynghyd â thriniaethau wyneb traddodiadol ac arbrofol. Mae’r rhain yn gadael iddynt harneisio rhyw gyflwr amrwd gan adleisio’r ffordd gyntefig y bydden ni’n trin meddyliau a deunyddiau naill ai organig neu anorganig yn oes yr arth a’r blaidd. Mae’r gwrthrychau’n pontio’r bwlch rhwng celfyddyd a dylunio, weithiau rhai ymarferol ydynt, weithiau gosodweithiau.

<< Yn ôl tudalen