Y Gwneuthurwr
Lucy ReadGwneuthurwr Mewn Ffocws
30 Gorffennaf - 15 Medi 2013
Archwilia Lucy Read themau parhaol o gysur a maeth fel rhan allweddol o oroesiad. Gan ddefnyddio amryw o ddeunyddiau defnyddiwn bob dydd sydd yn chwarae ar nifer o synhwyrau, tynna’r gwyliwr i greu rhyngweithiad o fewn y lle arddangos. Mae gan y defnyddiau yma ansawdd dros dro gan adlewyrchu natur gylchol bywyd a chymdeithas newidiol sydd angen cynhaliaeth. Mae ganddi ddiddordeb yn y cysyniad o gof gellid ei ganfod gan gyffyrddiad neu arogl, weithiau’n hyfryd, ond gan amlaf wedi ei hatynnu i’r profiadau sydd yn ein gwrthyrru.
Cyfuna diddordeb Lucy gyda gwagle, defnydd a proses i greu ymarfer wedi ei selio yng ngherflunwaith, perfformiad ac arlunio, gan ddefnyddio defnyddiau caled a meddal. Ymdrecha i greu math arbennig o estheteg, sydd yn cyfuno prosesau llaw a digidol, gyda llinyn cysyniadol sydd yn rhedeg trwy gydol y gwaith. Mae’r corff yn chwarae rhan allweddol o fewn ymarfer Lucy, trwy broses, perfformiad a rhyngweithiad gwyliwr gan drawsnewid gwrthrych a’n gweledigaeth.
Am | Lucy Read
Artist o Wlad yr Haf, sydd nawr yn astudio ei MA Tecstilau: Deialogau Cyfoes yn Abertawe ac sydd hefyd wedi cyflawni BA Celf Gain yn Metropolitan Abertawe. Ar hyn o bryd, hi yw dylunwr Cyhoeddiadau Twelve34, gweithiodd gyda Locws Rhyngwladol yn y gorffennol. Mae Lucy wedi bod yn artist preswl gyda Supersaurus ac Arts in Action, ac arddangosodd gwaith yn Theatr Volcano, Oriel Elysium, Red Door 44 ac Oriel Twelve34 yn Abertawe a Z-Shed ym Mryste.