Y Gwneuthurwr

  • Header image

Lisa KrigelGwneuthurwr Mewn Ffocws

02 Chwefror - 02 Mawrth 2019

Artist gwobrwyedig yw Lisa Krigel sydd yn creu cerameg cerfluniol defnyddiol sydd yn archwilio a datblygu ffurfiau a welwyd mewn adeiladwaith modern a moel. Yn archwilio’r berthynas rhwng bwyd a phensaernïaeth, gan greu gwaith sydd yn gwthio’r ffiniau rhwng ffurf a swyddogaeth, gan adeiladu gwaith staciedig sydd yn cyflwyno elfen o theatr i’r weithred o fwyta pan tynnir arwahan.

Mae pob tŵr staciedig yn gyfeiriad gweledol i’r ideoleg iwtopaidd a fu’n tanategu llawer o’r ffurfiau pensaernïol a dyluniadau iwtopia gymdeithasol.

Mwynha Lisa edrych ar y paralelau rhwng crefftio deunyddiau cerameg a choncrit, y domestig a’r enfawr.

Mae pob darn unigol wedi eu taflu a llaw, cymysgedd penodol o glai wedi ei ddatblygu i ddynwared lliw a theimlad concrit, yna’u llyfnhau a’u llafru a’u tanio ar wres uchel am barhauster. Dengys pob tŵr  amrywiaeth o blatiau, cwpanau, dysglau a phowlenni gan arddangos amrywiaeth o liwiau mewnol, gan gynnwys paprika, oren, glaslwyd, gwyrdd pwl a llachar.

Daw gwaith Lisa yn fyw fel ffocws prydau agos, partion swper a digwyddiadau dathlu, gan greu cyfleoedd i adrodd straeon, trafodaeth a dadlau.

<< Yn ôl tudalen