Y Gwneuthurwr

  • Header image

Lewis ProsserY Gwneuthurwr

19 Mawrth - 30 Ebrill 2022

Gwneuthurwr basgedi hunanddysgedig ac artist yw Lewis Prosser sydd wedi'i leoli ym Mhenarth.

Mae ei ymarfer creadigol yn cyfuno crefft draddodiadol gyda’i addasiadau ei hun, gan gwmpasu gwneud basgedi, perfformio, blodeuwriaeth, cerflunwaith, gwisgoedd, a churadu.

Ar hyn o bryd, mae gwaith Prosser yn archwilio cymeriad y gwneuthurwr gwreiddiol: Y crefftwr y mae ei reddf i wneud pethau gyda beth bynnag sydd ar gael yn curo cynllunio gofalus a chydosod yr offer cywir. Nodweddir ei ymarfer artistig, fel un y gwneuthurwr gwreiddiol, gan waith byrfyfyr a thrin gydag amrywiaeth o ddeunyddiau ac offer sylfaenol ar gael yn rhwydd.

Defnyddir gwneud basgedi fel ffordd o gysylltu â’r dirwedd, gan eistedd rhywle rhwng llafur a hamdden, mae’n arferiad sy’n eich plygio’n uniongyrchol i’r tymhorau ac yn amlygu’r byd fel gofod ar gyfer casglu a rhoi. Un o’r crefftau hynaf a mwyaf a ddefnyddir yn eang, mae gwneud basgedi yn ffordd o deithio diwylliant ac amser, dyma’r offeryn sy’n dod ag ynni adref.

Mae Prosser hefyd yn Gyfarwyddwr a churadur ar gyfer oriel Tŷ Turner ym Mhenarth.

<< Yn ôl tudalen