Y Gwneuthurwr
Laura ThomasGwneuthurwr Mewn Ffocws
26 Mawrth - 05 Mai 2013
Artist tecstilau gwau gwobrwyedig a dylunwr sydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu darnau celf trawiadol i wagleoedd cyfoes yw Laura Thomas.
Mae ymarfer a dull amrywiol Laura wedi ei gwneud yn hynod o anghyffredin yn y byd tecstiau gwau. Naill ai celf safle-penodol, gwaith arddangosfa a dylunio tecstil mewnol, chwilfrydedd ymarferol i orchest egwyddorion y gwehyddiad sydd yn tanlinellu gwaith Laura, gan ddathlu prydferthwch yr edau a chreu estheteg hynod i’r crefft hynafol yma.
Mae comisiynau celf cyhoeddus diweddar fel Tŷ Gwybodaeth Beaney yng Nghaergaint, Ysbytŷ Cwm Cynon Aberpennar a’r Gwesty Fairmont yn Mecca wedi arwain i gydweithrediad gyda Cynhyrchion Innovative Glass yng Nghlydach i ddatblygu estheteg Resonate i wŷdr laminedig, gan greu paneli waliau a ffenestri sydd yn addas ar gyfer ardaloedd traffig uchel.