Y Gwneuthurwr
Kim ColebrookY Gwneuthurwr
20 Ionawr - 16 Mawrth 2024
Nod Kim yn ei gwaith yw corffori gwead a naratif, gan greu yn aml ffurfiau syml iawn fydd yn cario’r neges fwriedig. Caiff ei gwaith ei adeiladu â llaw neu ei gastio, gan integreiddio gweadau, lliwiau ac ocsidau. Gall y naratif fod wedi’i ddatblygu o fewn un llestr, neu’n gyfuniad o sawl elfen mewn arddangosfeydd wal neu osodwaith.
Delwedd: Ciwb, Kim Colebrook