Y Gwneuthurwr

  • Header image

Julia SmithGwneuthurwr Mewn Ffocws

01 Gorffennaf - 30 Gorffennaf 2011

Gemydd cyfoes yw Julia Smith, sydd yn creu darnau cyffrous a cymhleth mewn arddull unigryw. Yn gweithio gan amlaf mewn metel gwerthfawr, creїr darnau swyddogaethol mewn metelau sylfaen hefyd. Ysbrydolir gan berthnasau teuluol a storїau personol. Mae darnau gwyddonol hen-ffasiwn , yn enwedig Orreries, yn ysbrydoliaeth mawr iddi.

Mae’r casgliad presennol yn cynnwys cyfres o fodrwyon a tlysau symudol gydag elfennau carreg, ynghyd â darnau gwddf, breichledau a clust-dlysau statig o ddyluniadau tebyg.

Graddiwr Coleg Celf Henffordd, derbynniodd BA (Hons) yng Nghelfyddyd Gymhwysol Cyfoes. Yn ei blwyddyn cyntaf o greu, cafodd ei gwaith ei gynnwys yng nghylchgrawn Vogue, argraffiad Ebrill 2011.

<< Yn ôl tudalen