Y Gwneuthurwr
Joyce JenkinsY Gwneuthurwr
18 Ionawr - 08 Mawrth 2025
Mae Joyce Jenkins wedi bod yn ymwneud â chlytwaith/cwiltio ers dros 30 mlynedd, ond oherwydd dyfodiad Alzheimers bu rhaid iddi osod ei chrefft o’r neilltu. Mae ei darnau cywrain, sydd wedi’u gwnïo â llaw, yn datgelu’r cariad sydd ganddi at y broses a’r sgiliau y mae wedi’u datblygu dros y blynyddoedd.
Mewn tŷ sy’n llawn prosiectau blaenorol, mae Francis, ei gŵr, wedi mynd ati i arddangos ei gwaith i eraill - nid yn unig i dynnu sylw at sgiliau Joyce ond i barchu crefft nad yw bob amser yn cael ei gwerthfawrogi.
Cwilt anghyflawn yw'r darn a ddangosir, sef un o'r prosiectau olaf i Joyce ymgymryd ag e, sy’n darlunio dŵr yn llifo i mewn i lyn (crys wedi i’w mab dyfu allan ohono yw’r dŵr/llyn) wedi'i amgylchynu gan wyrddni.
Mae'r cwilt yn mesur tua 200cm x 150cm ac yn cynnwys oddeutu 4,800 o ddarnau hecsagon 25.4mm (1 fodfedd) o led, pob un wedi’i bwytho dros ddarn o bapur, ac yna eu gwnïo at ei gilydd â llaw.
Ynglŷn â Joyce: Joyce Jenkins
Ganed Joyce ar fferm yn Nhalgarth (Powys) yng nghanol y 1940au.
Mynychodd Ysgol Gyfun Maesydderwen yn Ystradgynlais ac yn ddiweddarach daeth yn nyrs ddeintyddol. Priododd Joyce â Frank ar ddiwedd y 1960au; mae ganddi ddau o blant (a bellach 4 o wyrion) a bu’r teulu’n byw am y rhan fwyaf o’u blynyddoedd cynnar yn Mayals, Abertawe ac yn ddiweddarach yn y Bont-faen.
Roedd gan Joyce ddawn gynhenid ar gyfer rhai crefftau, coginio, garddio, trefnu blodau, ffotograffiaeth, cyflwyno blodau sych a chlytwaith/cwiltio - yr olaf o’r rhain oedd ei ffefryn. Dysgodd y crefftau hyn i gyd drosti’i hun. Yn ystod y blynyddoedd cynnar sefydlodd fusnes bach, Little Friends, ynghyd â'i chwaer; yn gwneud nifer cyfyngedig o ffigurau bach allan o wahanol ffabrig.
Byddai Joyce yn treulio oriau yn cwiltio'n amyneddgar. Mae gwneud templedi, torri'r ffabrig i’r maint cywir, gwnïo’r darnau bach at ei gilydd â llaw, yna darnau mwy, yn dyst i'w dawn, ei hamynedd ac yn bennaf oll, cariad at y grefft.
Cafodd Joyce ddiagnosis am Alzheimer yn 2020, ac mae bellach yn byw mewn Cartref Gofal.
Delwedd: Cwilt gan Joyce Jenkins