Y Gwneuthurwr

  • Header image

Hannah SharpeY Gwneuthurwr

12 Awst - 23 Medi 2023

Mae Hannah yn seramegydd yn Abertawe sydd wedi rhoi gogwydd cyfoes ar ymarfer traddodiadol. Mae ei gwaith yn archwilio'r ffurf ddynol a'i mynegiadau cysyniadol fel thema ganolog, gan archwilio'r grotésg, hunaniaeth, a phositifrwydd corfforol a rhywiol. Mae cyfeiriad ei hymarfer creadigol yn ymwneud â chyfuno ffurfiau castin slip gyda lliwiau llachar, gan ysgogi teimladau o chwilfrydedd ac anghysur ymhlith y gynulleidfa. 

Mae ei chorff presennol o waith, 'Enemy or Friend?' yn dathlu’r ffurf ddynol. Mae’r cerfluniau’n symbol o’r fersiynau ohonom ni yn ein holl ogoniant, heb ddefnyddio technoleg i'w haddasu – gan gyfleu ein siâp, ein crychau a'n croen amherffaith. Mae pob corff yn deilwng o gael ei garu a'i dderbyn, a dyma’r peth lleiaf y gallwn ei roi i'n cyrff a hwythau'n ein cario ni drwy ein bywydau. 


 

Cafodd Hannah ganmoliaeth uchel am ei gwaith, fel rhan o Wobr Crefft Oriel Mission 2023. Mae Gwobr Crefft Oriel Mission yn wobr flynyddol i fyfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a ddyfernir i fyfyriwr BA neu MA sydd wedi datblygu corff o waith cywrain sydd â photensial o ran adwerthu. Detholir o blith y myfyrwyr sy’n graddio mewn Crefftau Dylunio a Thecstilau a Phatrymau Arwyneb.

<< Yn ôl tudalen