Y Gwneuthurwr

  • Header image

Elin HughesGwobr Jane Phillips

02 Hydref - 13 Tachwedd 2021

A hithau’n cael ei hysbrydoli gan amrywiaeth o ddylanwadau eclectig, o Tsieina’r 14eg ganrif i Fynegiadaeth Haniaethol Americanaidd y 1950au trwy grochenwaith Gaudy Welsh Oes Fictoria, mae llestri direidus Elin yn codi cwestiynau am swyddogaeth sgil a thraddodiad yn y gymdeithas sydd ohoni.

Mae ei photiau ‘Pync Nain’, chwedl hithau, yn diystyru rheolau confensiynol swyddogaeth. Drwy chwarëusrwydd tebyg i blentyn sy’n stumio natur ymarferol sefydlog gwrthrychau domestig, mae’n defnyddio clai fel metaffor ar gyfer natur fythol newidiol ansefydlog ein hunaniaethau a byrhoedledd plentyndod. Yn bochio, yn ymwthio allan ac yn rhwygo wrth yr ymylon, mae’r llestri hyn yn ymgorffori pryder hunaniaeth a’r gwrthdaro rhwng mewnblygrwydd glynu wrth dreftadaeth Cymru gan edrych allan ar yr un pryd a holl gyffro bod yn ‘ddinesydd byd’.



 

Cafodd y wobr ei greu yn 2011 er cof am Jane Phillips (1957 – 2011), cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Mae’r wobr yn gymynrodd i angerdd Jane am feithrin talent,  yn gweithio gydag unigolion ar bob lefel - gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ag artistiaid ar ddechrau eu taith. Cyfleoedd sydd wedi eu cryfhau trwy gydweithrediad agos gyda thim Oriel Mission, Coleg Celf Abertawe, PCYDDS ag oriel elysium.

Rhan o arddangosfa sydd yn edrych ar lwyddiant a champau deng mlynedd o Wobr Jane Phillips.

Am fwy o wybodaeth am y wobr, cliciwch yma

 

Delwedd: Tribute/Teyrnged #5 (2020), Majolica glazed terracotta, 22x17x17cm

<< Yn ôl tudalen