Y Gwneuthurwr

  • Header image

Debbie SmythGwneuthurwr Mewn Ffocws

17 Gorffennaf - 19 Awst 2012

Artist tecstil yw Debbie Smyth sydd mwyaf canfyddadwy am ei darluniau edau ; creїr y darnau celf cyfoes, chwareus a soffistigedig yma trwy ymestyn rhwydwaith o edau rhwng cynllun o binnau. Mae ei gwaith yn pylu’r ffiniau rhwng darluniau celf gain a celf tecstil, gwaith fflat a 3D , arlunio a brodwaith,, yn codi’r linell yn llythrennol oddi ar y papur mewn cyfres o ddarluniau ‘pin ac edau’.

“On first glance, it can look like a mass of threads but as you get closer sharp lines come into focus, creating a spectacular image. The images are first plotted out before being filled out with the thread, the sharp angles contrasting with the floating ends of the thread.  And despite the complexity of the lengthy process I try to capture a great feeling of energy and spontaneity, and, in some cases, humour”

Chwaraea Debbie gyda graddfa; gan greu darnau sefydledig oriel a gwaith ar gyfer amgylchedd domestig. Mae ei steil unigryw yn addas ar gyfer amgylcheddau corfforedig, gwagleoedd cyhoeddus, arddangosfeydd ffenest, dylunio set, dylunio graffeg a darlunio. Wrth gydweithio â dylunwyr mewnol, penseiri ac ymarferwyr creadigol eraill, gwthia Debbie ei gwaith hyd yn oed ymhellach.

”I feel as if I am taking thread out of its comfort zone, presenting it on monumental scale and creating an eye-catching, and in some case jaw dropping effect”

Mae Debbie wedi gweithio gyda cwmniau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Ellesse, The New York Times, The Canadian Red Cross, Sony a Grŵp Gwesty Dorchester.

<< Yn ôl tudalen